News

Adolygiad blynyddol o wybodaeth gyfreithiol weithredol yr SQE

Erbyn hyn, mae'r SRA a Kaplan wedi cwblhau’r adolygiad blynyddol o'r wybodaeth gyfreithiol weithredol sy'n cael ei hasesu yn SQE1 a SQE2. Yn sgil adborth darparwyr hyfforddiant ac ymgeiswyr, rydym wedi gwneud rhywfaint o welliant ym manylebau’r ddau asesiad SQE.

Manion yw’r rhan fwyaf o'r newidiadau hyn – yr unig newid sylweddol yw egluro’n disgwyliadau ynghylch deall y cyfreithiau yng Nghymru a Lloegr a lle maen nhw’n wahanol. Er enghraifft, o ran trawsgludo eiddo mae angen i ymgeiswyr ddeall gwahaniaethau o ran trethiant, gyda Threth Trafodiadau Tir yng Nghymru a Threth Dir y Dreth Stamp yn Lloegr.

Mae'r manylebau asesu newydd wedi'u cyhoeddi ar wefan yr SQE - SQE1 ac SQE2 ac yn dod i rym ar gyfer asesiadau sy'n digwydd o fis Medi 2023 ymlaen.

Yn ogystal ag adolygiadau blynyddol, rydym wedi ymrwymo i adolygiad ehangach, manylach o'r manylebau asesu ar ôl pum mlynedd.

Dywedodd Julie Swan, Cyfarwyddwr Addysg a Hyfforddiant:

'Mae'n bwysig ein bod yn adolygu manylebau asesiadau'r SQE bob blwyddyn i sicrhau eu bod yn parhau'n gywir ac yn gyfredol. Mae'n hanfodol bod ymgeiswyr yr SQE yn deall y gwahaniaeth yng nghyfreithiau Cymru a Lloegr ac mae'r diweddariad hwn bellach yn cynnig mwy o eglurder ar hyn. Rydym wedi gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid yng Nghymru i wneud y newidiadau hyn ac rydym yn parhau i adolygu hyn yn gyson.'

Rhagor o wybodaeth