Hawlio’ch arian a’ch papurau gennym ni
English Cymraeg
Os bydd angen y canllawiau hyn arnoch chi mewn iaith arall neu mewn fformatau eraill, cofiwch gysylltu â ni ac fe allwn eu darparu i chi. Os bydd angen help ychwanegol arnoch chi i wneud hawliad, byddwn yn gweithio gyda rhywun sydd wedi cael caniatâd gennych chi i'ch cynrychioli, fel cynghorydd cyfreithiol neu gyfreithiwr newydd, neu aelod o Cyngor ar Bopeth neu asiantaeth arall.
Os ydych chi'n credu bod arian yn ddyledus i chi gan gwmni sy'n cael ei reoleiddio gennym ni, efallai y bydd modd i chi hawlio arian gan ein Cronfa Iawndal i wneud iawn am hynny.
Os ydym wedi cau'r cwmni byddwn hefyd wedi penodi asiantau ymyrryd, a fydd yn dychwelyd arian a phapurau cleientiaid os bydd hynny'n bosib.
Fodd bynnag, mae'n bosib y byddwn yn dal gafael ar eich arian a'ch ffeiliau os nad yw'r asiant yn gwybod i bwy maen nhw'n perthyn. Os ydych chi'n credu nad yw'r cwmni wedi rhoi cyfrif am yr arian a gafodd gennych chi, neu os ydych chi'n chwilio am eich papurau, cofiwch gysylltu â ni.
Os ydych chi'n credu nad yw cwmni wedi rhoi cyfrif am yr arian a gafodd gennych chi, gallwch wneud hawliad i gael arian gan y Gronfa Iawndal.Rhoddir arian o'r gronfa hon yn ôl disgresiwn, a byddwn yn penderfynu a oes gennych chi hawl i gael grant gan y gronfa yn ein barn ni. Mae help a chanllawiau ar gael isod. Os oes angen mwy o help arnoch chi, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Allwn ni eich helpu?
Mae'n bosib y byddwn ni'n gallu'ch helpu os yw'r golled wedi digwydd yn ystod gwaith arferol person neu gwmni sy'n cael ei reoleiddio gennym ni, ac mae'n rhaid eich bod wedi:
- wynebu colledion oherwydd ei anonestrwydd, neu
- wynebu colledion a chaledi oherwydd ei fethiant i roi cyfrif am arian mae wedi'i gael.
Does dim angen i chi fod yn gleient neu'n gyn-gleient.
Pwy all wneud cais i'r Gronfa Iawndal?
Gallwch wneud cais i'r Gronfa os ydych chi:
- yn unigolyn
- yn fusnes, yn gwmni neu'n gymdeithas sydd â throsiant o lai na £2 filiwn
- yn elusen sydd ag incwm blynyddol o lai na £2 filiwn, oni bai y gallwch ddangos y bydd hyn yn arwain at galedi i'r buddiolwyr
- yn ymddiriedolwr i ymddiriedolaeth y mae ei asedau werth llai na £2 filiwn, oni bai y gallwch ddangos y bydd hyn yn arwain at galedi i'r buddiolwyr
Byddwn yn penderfynu a ydych chi'n gymwys i wneud hawliad. Os nad yw'r wybodaeth honno ar gael, byddwn yn gwneud amcangyfrif bras o'r ffigurau ariannol er mwyn penderfynu a ydych chi'n gymwys.
Ffactorau pwysig
Mae "methu rhoi cyfrif" yn cynnwys methiant gan gwmni neu berson a reoleiddir i gwblhau'r gwaith mae wedi cael ei dalu i'w wneud.
Mae'n bosib y bydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth o galedi.
Does gennych chi ddim hawl i gael grant gan y gronfa yn awtomatig.
Ni fyddwn yn rhoi grant a fydd yn golygu eich bod yn cael dros £2 filiwn.
Os nad yw'r cyfreithiwr wedi cwblhau'r gwaith wrth brynu eich cartref
Os oeddech chi wedi gofyn i'ch cyfreithiwr ddelio â'r broses o brynu'ch cartref ac nad yw wedi talu Treth Dir y Dreth Stamp neu ffioedd y gofrestrfa tir, neu os nad yw wedi cwblhau'r gwaith roedd wedi cael ei dalu i'w wneud, fel arfer byddwn yn talu £280 a TAW i'ch cyfreithiwr newydd gwblhau'r gwaith. Mae'n bosib y byddwn yn talu mwy na hynny os yw'n eiddo lesddaliad, neu os oedd angen gwneud mwy o waith oherwydd bod y papurau wedi cael eu colli, er enghraifft. Gallwn hefyd dalu ffioedd eich cyfreithwyr newydd ar gyfer gwneud hawliad i'r Gronfa Iawndal - £140 a TAW fel arfer.
Costau gwneud hawliad i'r Gronfa Iawndal mewn achosion eraill
Mae hawliadau i'r Gronfa Iawndal yn gymharol ddidrafferth fel arfer. Os byddwn ni'n talu eich hawliad, byddwn hefyd yn talu holl ffioedd eich cyfreithwyr newydd fel arfer, neu ran ohonynt, os oedd angen gwneud y gwaith er mwyn cyflwyno'r hawliad. Ni fyddwn yn talu mwy na £170 yr awr fel arfer.
Byddwn yn talu'r ffioedd sy'n rhesymol yn ein barn ni. Mae'n bosib na fydd hynny'n gyfystyr â ffi lawn eich cyfreithiwr newydd, ac efallai y bydd rhaid i chi dalu'r gwahaniaeth eich hun. Os ydych chi'n poeni am hyn, dylech drafod y mater â'ch cyfreithiwr.
Os byddwn ni'n gwrthod eich hawliad, ni allwn dalu ffioedd eich cyfreithwyr newydd.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Sut mae gwneud hawliad - beth mae angen i chi ei wneud?
I wneud hawliad, yn gyntaf dylech ddilyn y dolenni uchod i ddarllen ein canllawiau. Efallai y bydd angen i chi gysylltu â ni i gael rhagor o wybodaeth ynghylch bod yn gymwys i wneud hawliad, neu i gael eich papurau ynghylch yr hawliad.
Pan fydd gennych chi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i gefnogi'ch hawliad, llwythwch ffurflen gais i lawr (PDF 381K, 5 tudalen:
- drwy'r post:
Claims Management Unit
Solicitors Regulation Authority
The Cube
199 Wharfside Street
Birmingham
B1 1RN
- DX 720293 BIRMINGHAM 47, neu
- dros e-bost: claims.management@sra.org.uk.
Sut byddwn yn delio â'ch hawliad?
Ar ôl i chi lenwi'r ffurflen gais a'i dychwelyd atom gyda'ch tystiolaeth ategol, byddwn yn asesu'ch hawliad i weld a allwn ni eich helpu. Os na fyddwn ni'n gallu'ch helpu, byddwn yn rhoi gwybod i chi. Fel arall, byddwn yn delio â'ch hawliad gynted â phosib. Mae rhai materion yn gymhleth, ac mae'n gallu cymryd amser i'w hystyried.
Byddwn yn penderfynu a fyddwn yn gwneud taliad, ac yn rhoi gwybod i chi beth yw ein penderfyniad.
Os byddwn yn gwrthod eich talu neu'n talu llai na'r hyn rydych wedi'i hawlio, byddwn yn ysgrifennu atoch chi ac yn egluro'r rheswm dros hynny. Gallwch apelio yn erbyn ein penderfyniad. Yn yr achosion hynny, ni fyddwn yn talu unrhyw grant nes bydd y cyfnod apelio wedi dod i ben. Os byddwch chi'n apelio, byddwn yn aros i gael gwybod beth yw'r penderfyniad o ran yr apêl, ac yna'n talu unrhyw grant a ddyfarnwyd yn sgil y broses apelio.
Rydym yn ceisio cyrraedd y safonau uchaf wrth brosesu'ch hawliadau. Fodd bynnag, os ydych chi'n teimlo nad ydym wedi bodloni telerau'r siarter cwsmeriaid, gallwch gyflwyno cwyn i ni.
Help a chanllawiau
- Allwn ni eich helpu?
- Llenwi'r ffurflen gais a'i dychwelyd
- Sut byddwn yn delio â'ch hawliad?
- Hawlio arian yn ôl am drafodion trawsgludo, fel
- morgais nad yw cwmni wedi'i dalu er ei fod wedi cael arian i wneud hynny
- treth stamp, treth dir neu ffioedd y gofrestrfa tir sydd heb eu talu
- benthyciad morgais wedi'i golli
- Hawlio'n ôl unrhyw arian sy'n gysylltiedig ag ystad y sawl sydd wedi marw, neu gronfeydd ymddiriedolaeth
- Hawlio'n ôl unrhyw arian sy'n gysylltiedig â cholledion cyffredinol y cleient, a