Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym

English Cymraeg



Yma rydym yn nodi sut y byddwn yn cydweithio â chi ac yn gwrando ar eich barn neu’ch pryderon. Rydym yn esbonio’r hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym, p’un a ydych mewn cysylltiad â ni’n uniongyrchol ynteu’n cael eich cynrychioli gan sefydliad cymorth i ddefnyddwyr neu sefydliad eiriolaeth. Ein henw ni ar hyn yw ein "Siarter Ymgysylltu Cyhoeddus".

Anelwn at drin pawb yn deg a chyfartal, gan sicrhau ein bod yn deall eich anghenion.

Pwy ydyn ni a beth yw’n gwaith

Ni yw’r rheoleiddiwr i gyfreithwyr a’r mwyafrif o ffyrmiau cyfraith Cymru a Lloegr. Rydym yn gweithio er budd y cyhoedd, gan oruchwylio cyfreithwyr a ffyrmiau cyfraith. Mae hynny’n golygu ein bod ni:

  • yn gweithio i sicrhau bod cyfreithwyr yn dilyn ein rheolau ac yn cyrraedd ein safonau uchel
  • yn amddiffyn pobl pan fyddan nhw’n defnyddio cyfreithiwr neu ffyrm gyfraith:
    1. camu i mewn pan aiff rhywbeth o’i le gyda chyfreithiwr neu ffyrm gyfraith
    2. rhoi iawndal i bobl sydd wedi colli arian o dan amgylchiadau penodol
  • yn gweithio i sicrhau bod gwasanaethau cyfreithiol yn hwylus a fforddiadwy.

Gallwch chi

Byddwn yn agored ac atebol ynghylch

  • yr hyn y gallwn ei wneud ichi
  • yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym
  • sut y gwnaethom ein penderfyniadau ar ddisgyblaeth a pholisi
  • beth i’w wneud os na fyddwch yn fodlon ar unrhyw elfen o sut rydyn ni wedi ymdrin â chi neu unrhyw benderfyniad a wnaethom.

Byddwn mor gynhwysol â phosibl

  • drwy ddarparu gwybodaeth hwylus mewn iaith glir
  • drwy gynnig amryw o ffyrdd gwahanol ichi gysylltu â ni
  • drwy gydweithio â chi, lle bynnag y bo modd, yn y ffordd sy’n fwyaf addas i chi.

Ein nodau ni yw

1. Rhoi gwasanaeth cwsmeriaid o safon ichi pryd bynnag y byddwch yn cysylltu â ni. Fe fyddwn:

  • yn gwrando arnoch
  • yn broffesiynol a chwrtais
  • yn dod yn ôl atoch pryd y dywedwn ni
  • yn gweithredu’n deg, gan drin pawb yn gyfartal, heb wahaniaethu anghyfreithlon
  • yn ymateb i’ch anghenion unigol, a sicrhau bod ein gwasanaethau’n hwylus
  • yn gofalu am eich data fel y disgwyliech, a chadw’ch gwybodaeth yn gyfrinachol.

2. Wrth ymgynghori â chi ynghylch newidiadau a allai effeithio arnoch, fe fyddwn:

  • yn nodi’n glir y rhesymau am unrhyw newid arfaethedig, sut gallen nhw effeithio ar bobl, a’r rhesymau pam rydyn ni’n gofyn eich barn chi
  • yn rhoi digon o amser i bobl ymateb neu leisio barn
  • yn sicrhau bod yr ystod ehangaf posibl o leisiau a sylwadau’n cael eu clywed, gan gynnwys y rhai a allai fod yn absennol fel arall, megis y rhai sy’n eu cael eu hunain mewn sefyllfa fregus
  • yn defnyddio amryw o ffyrdd gwahanol i glywed y sylwadau hyn, yn uniongyrchol gan unigolion a thrwy sefydliadau cymorth i ddefnyddwyr a sefydliadau eiriolaeth
  • yn gwrando, yn ystyried yr hyn y mae pobl yn ei ddweud, ac yn newid ein ffyrdd o weithio os dyna’r peth cywir i’w wneud
  • yn gadael i bobl wybod sut mae eu barn wedi newid ein syniadau ni
  • yn gwerthuso beth sy’n gweithio neu beidio, gan sicrhau ein bod yn gweithredu ar y gwersi.

3. Sicrhau bod pawb yn yr SRA, a’r rhai rydyn ni’n gweithio gyda nhw, yn cydnabod ac yn hybu pwysigrwydd gweithio fel hyn.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Pa wybodaeth sydd gennym am gyfreithwyr a ffyrmiau, a sut i wirio’u cofnod.

Sut i roi gwybod am broblem gyda chyfreithiwr - gan gynnwys manylion am pa bryd y gallwn ni helpu neu beidio, a phryd y gallai’r Ombwdsmon Cyfreithiol helpu yn lle hynny. 

Canllawiau ar wneud penderfyniadau – sut rydym yn gwneud penderfyniadau pan fyddwn yn ymchwilio i bryderon am gyfreithwyr neu ffyrmiau cyfraith. 

Gwneud taliadau o'n cronfa iawndal – manylion ynghylch pa bryd y gallwch wneud cais i’n cronfa iawndal, a beth i'w ddisgwyl.

Sut rydym yn delio â'ch pryder amdanon ni – sut i gwyno am y gwasanaeth rydym wedi’i roi ichi, a’n siarter cwynion

Sut rydym yn ymgynghori ar newid polisi neu newid gweithredol – sut rydym yn siarad ac yn  gwrando ar bobl cyn inni wneud newidiadau i'r ffordd rydym yn gweithio.

Mae ein polisïau ynghylch Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn cynnwys manylion am addasiadau rhesymol - sut rydym yn ei gwneud yn haws ichi gysylltu â ni, er enghraifft os oes gennych anabledd neu broblem iechyd, a’n datganiad polisi cynhwysiant traws sy’n nodi’n hymagwedd at drin pawb ag urddas a pharch. 

Ein polisi ar ddefnyddio ieithoedd heblaw Saesneg, gan gynnwys Cymraeg, a manylion am wasanaethau cyfieithu sydd ar gael.

Prosesu data yn deg – beth i’w ddisgwyl pan fyddwn yn casglu’ch gwybodaeth bersonol.

Cynllun cyhoeddi – pa fath o wybodaeth rydyn ni’n ei chyhoeddi.

Cod tryloywder – sut rydyn ni’n mynd ati i fod mor agored ag y bo modd am yr hyn a wnawn.