Ein Bwrdd – cyfrifoldebau
English Cymraeg
Rhagfyr 2019
Mae rheolaeth weithredol yr SRA yn cael ei dirprwyo i’n Prif Weithredwr a’r tîm Gweithredol, ond ein Bwrdd sydd, yn y pen draw, yn gyfrifol am bopeth rydym yn ei wneud.
Mae hyn yn cynnwys:
- ein diben, ein hamcanion a’n strategaeth
- ein perfformiad yn weithredol ac yn erbyn ein cynlluniau corfforaethol a busnes
- ein gwerthoedd a’n henw da
- sut yr ydym yn cyflawni ein hamcanion statudol
- sut yr ydym yn defnyddio ein pwerau cyfreithiol
- perfformiad ein gweithrediaeth
- ein safonau llywodraethu.
Mae ein bwrdd yn rhoi sylw penodol i’r canlynol:
- gwneud yn siŵr ein bod yn gweithredu’n annibynnol ac er budd y cyhoedd
- ein heffaith a’n heffeithiolrwydd
- canfod a rheoli risgiau yn y sector
- gwneud yn siŵr ein bod yn defnyddio ein cronfeydd yn briodol
- gwneud yn siŵr ein bod yn gweithredu’u deg
- gweithredu’n gyfrifol ac mewn ffordd dryloyw
- gwneud yn siŵr ein bod yn ymddwyn yn foesegol
Mae’r Bwrdd yn dilyn rheolau Cymdeithas y Cyfreithwyr a’r Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol.