Croeso i’n cyfres o adroddiadau corfforaethol ar gyfer blwyddyn 2021/22.
English Cymraeg
1 Medi 2023
Mae'r adroddiadau hyn yn ymdrin â'n gwaith ym maes Awdurdodi, Diogelu Cleientiaid ac Addysg a Hyfforddiant. Mae'r adroddiadau'n cwmpasu'r cyfnod rhwng mis Tachwedd 2021 a mis Hydref 2022, ein blwyddyn ariannol. Mae ein hadroddiad ar ein gwaith Atal Gwyngalchu Arian yn cael ei gyhoeddi hyd at flwyddyn ariannol wahanol, ac felly bydd yn dilyn yn nes ymlaen.
Ymdrinnir â'n gwaith gorfodi yn Cynnal Safonau Proffesiynol. Rydyn ni'n gwybod bod y mwyafrif helaeth o'r cyfreithwyr a'r cwmnïau rydyn ni'n eu rheoleiddio yn cyrraedd y safonau uchel rydyn ni'n eu gosod ac yn darparu gwasanaethau cyfreithiol o ansawdd uchel i'r cyhoedd. Mae ein hadroddiad yn edrych ar yr hyn sy'n digwydd pan nad yw safonau uchel yn cael eu cyrraedd, a'r camau a gymerwn i sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu diogelu a bod hyder yn y proffesiwn yn cael ei gynnal.
Mae'r hyder hwn nid yn unig yn dibynnu ar ymddiriedaeth ein bod yn gweithredu pan aiff pethau o chwith, ond hefyd ein bod yn delio ag achosion o'r fath yn effeithiol ac yn effeithlon. Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar leihau'r amser mae'n ei gymryd i ddod ag achosion i ben, yn enwedig achosion sydd wedi bod ar agor ers amser maith. Mae gennym raglen waith sylweddol i wella ymhellach yn y maes hwn. Bydd ein Bwrdd yn monitro cynnydd yn agos drwy ein hadroddiadau perfformiad, a gyhoeddir gennym fel rhan o bapurau ein Bwrdd.
Rydym hefyd wedi cyhoeddi diweddariad cysylltiedig ar nodweddion amrywiaeth y bobl sy'n rhan o'n prosesau gorfodi, a'r gwaith rydym yn ei wneud i ddeall yn well pam mae rhai grwpiau'n cael eu gorgynrychioli.
Gobeithio y bydd y trosolwg o feysydd allweddol ein gwaith yn ddiddorol i chi, ac y bydd y mewnwelediadau a'r dadansoddiadau yn yr adroddiadau hyn yn ddefnyddiol.
Anna Bradley, Cadeirydd Bwrdd yr SRA