Awdurdodi'r proffesiwn 2021/22
English Cymraeg
Cyhoeddwyd 1 Medi 2023
Mae'r broses awdurdodi yn allweddol. Rydyn ni'n defnyddio'r broses i sicrhau bod unigolion a busnesau yn cyrraedd y safonau proffesiynol uchel rydyn ni a'r cyhoedd yn eu disgwyl pan fyddant yn ymuno â'r proffesiwn.
Rydyn ni'n gwneud hyn drwy gynnal archwiliadau cefndir, gan gynnwys sicrhau nad oes unrhyw broblemau o ran cymeriad ac addasrwydd, a thrwy sicrhau bod yr ymgeiswyr yn meddu ar y sgiliau a'r cymwysterau priodol. Ein blaenoriaeth yw sicrhau nad oes dim risg i'r cyhoedd wrth ganiatáu i unigolion neu gwmnïau ymuno â'r proffesiwn. Rydyn ni hefyd yn ceisio gwneud i'r broses hon weithio mor effeithlon a didrafferth â phosibl.
Mae'r siartiau isod yn rhoi manylion am ein gwaith yn y maes hwn ac yn tynnu sylw at batrymau a thueddiadau allweddol. Mae rhestr o'r termau ar gael ar waelod y dudalen hon.
Sylwch, mae ein blwyddyn fusnes yn rhedeg o 1 Tachwedd i 31 Hydref. Oni nodir yn wahanol, mae'r ffigurau hyn ym mis Hydref yn y flwyddyn olaf – hy, mae'r ffigurau ar gyfer 2021/22 ar 31 Hydref 2022.
Pwy ydyn ni'n eu hawdurdodi a'u rheoleiddio
- Cyfreithwyr sy'n ymarfer cyfraith Cymru a Lloegr yng Nghymru a Lloegr.
- Cyfreithwyr sy'n ymarfer cyfraith Cymru a Lloegr dramor.
- Cyfreithwyr nad ydynt yn ymarfer sydd ar gofrestr cyfreithwyr. Dyma gofnod o'r cyfreithwyr rydyn ni wedi'u hawdurdodi i ymarfer cyfraith Cymru a Lloegr. Ni fydd pob cyfreithiwr ar y gofrestr yn ymarfer y gyfraith oherwydd, er enghraifft, maent wedi ymddeol.
- Y rhan fwyaf o gwmnïau cyfreithiol a rhai mathau eraill o fusnesau yng Nghymru a Lloegr sy'n cynnig gwasanaethau cyfreithiol.
- Cyfreithwyr tramor cofrestredig (RFL) a rhai cyfreithwyr Ewropeaidd cofrestredig (RELs).
Mae nifer y cwmnïau cyfreithiol sy'n dewis gwneud cais am drwydded strwythur busnes amgen (ABS) (sydd ar gael i'r rheini sydd â pherchnogaeth neu reolaeth heb fod yn gyfreithwyr) yn parhau i gynyddu ac mae'n ddewis arbennig o boblogaidd i gwmnïau corfforedig, y mae nifer ohonynt hefyd yn cynyddu. Gall y model busnes hwn fod yn ddeniadol gan ei fod yn caniatáu i bobl ddod ag arbenigedd nad yw gan gyfreithwyr i mewn i helpu i ddatblygu eu busnesau.
Roedd cyfanswm nifer y cwmnïau cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr wedi aros yn gymharol sefydlog rhwng 2014 a 2019 ond mae wedi gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn o bosibl oherwydd bod llai o gwmnïau newydd yn cael eu sefydlu yn ystod pandemig Covid-19 a'r rhagolygon economaidd gwannach yn y DU yn annog pobl i beidio â sefydlu busnes newydd. Mae hyn yn wahanol i nifer y cyfreithwyr sy'n ymarfer, sy'n parhau i gynyddu o un flwyddyn i'r llall (gweler proffil o'r boblogaeth cyfreithwyr).
2014/15 | 2015/16 | 2016/17 | 2017/18 | 2018/19 | 2019/20 | 2020/21 | 2021/22 | |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cyfanswm y cwmnïau cyfreithiol | 10,336 | 10,415 | 10,420 | 10,407 | 10,341 | 10,107 | 9,860 | 9,636 |
Cwmnïau gyda thrwydded ABS (is-set o gyfanswm y nifer) | 424 | 550 | 681 | 791 | 877 | 945 | 1,040 | 1,141 |
Dadansoddiad o'r mathau o gwmnïau cyfreithiol gydag is-set strwythur busnes amgen
2014/15 | 2015/16 | 2016/17 | 2017/18 | 2018/19 | 2019/20 | 2020/21 | 2021/22 | |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Yn cynnwys cwmni | 3,813 | 4,205 | 4,537 | 4,778 | 4,952 | 5,015 | 5,093 | 5,161 |
Yn cynnwys cwmni â thrwydded ABS (is-set) | 268 | 369 | 477 | 559 | 629 | 687 | 773 | 850 |
Ymarferydd unigol | 2,725 | 2,627 | 2,489 | 2,367 | 2,217 | 2,060 | 1,878 | 1,716 |
Partneriaeth | 2,203 | 1,978 | 1,799 | 1,673 | 1,584 | 1,470 | 1,352 | 1.226 |
Partneriaeth â thrwydded ABS (is-set) | 25 | 28 | 30 | 41 | 46 | 47 | 46 | 50 |
Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig | 1,550 | 1,559 | 1,557 | 1,542 | 1,549 | 1,526 | 1,503 | 1,498 |
Partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig â thrwydded ABS (is-set) | 130 | 152 | 172 | 189 | 199 | 208 | 218 | 238 |
Arall | 45 | 46 | 38 | 37 | 39 | 36 | 34 | 34 |
Arall â thrwydded ABS (is-set) | 1 | 1 | 2 | 2 | 3 | 3 | 3 | 3 |
Sylwch, oherwydd natur eu busnes, nid yw ymarferwyr unigol yn gallu cael trwyddedau strwythur busnes amgen. Rhaid i gyfreithiwr a rhywun nad yw'n gyfreithiwr fod yn rhan o'r gwaith o redeg ABS.
Sylwch, mae'r ffigurau hyn yn berthnasol i gyfreithwyr yn unig ac nid ydynt yn cynnwys cyfreithwyr Ewropeaidd cofrestredig na chyfreithwyr tramor cofrestredig.
Deiliaid tystysgrif ymarfer | Ar y gofrestr cyfreithwyr | |
---|---|---|
2011/12 | 127,353 | 169,338 |
2012/13 | 130,643 | 162,367 |
2013/14 | 133,327 | 164,598 |
2014/15 | 135,294 | 171,464 |
2015/16 | 139,313 | 178,340 |
2016/17 | 143,072 | 185,240 |
2017/18 | 146,625 | 192,121 |
2018/19 | 150,349 | 199,181 |
2019/20 | 153,082 | 205,688 |
2020/21 | 156,928 | 212,601 |
2021/22 | 160,676 | 219,424 |
Rydyn ni am weld cwmnïau'n arloesi mewn marchnad gyfreithiol fodern, gan weithio mewn ffyrdd newydd ar gyfer eu cwsmeriaid a'i gwneud yn haws i bobl ddod o hyd i'r gwasanaeth cyfreithiol sydd ei angen arnynt.
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi syniadau newydd lle mae manteision posibl i'r cyhoedd a lle mae defnyddwyr yn cael eu diogelu'n briodol. Felly, rydym yn helpu darparwyr gwasanaethau cyfreithiol presennol i ddatblygu eu busnesau mewn ffyrdd newydd ac yn cefnogi mathau newydd o sefydliadau sy'n ystyried darparu gwasanaethau cyfreithiol am y tro cyntaf.
Mae ein rheolau yno i ddiogelu'r cyhoedd, ond rydyn ni am sicrhau nad ydynt yn rhwystro cwmnïau a chyfreithwyr rhag cynnig gwasanaethau cyfreithiol mewn ffyrdd newydd a chreadigol. Mae ein polisi hepgoriadau a'n Gofod Arloesi (a gyflwynwyd yn 2016) yn caniatáu i gwmnïau, cyfreithwyr a newydd-ddyfodiaid i'r farchnad archwilio gwahanol ffyrdd o redeg eu busnes a chyflwyno syniadau gwreiddiol, gan sicrhau bod y cyhoedd yn cael eu diogelu'n briodol ar yr un pryd. Mae'r Gofod Arloesi yn faes prawf rheoledig ar gyfer syniadau sy'n debygol o fod o fudd i'r cyhoedd.
Mathau o hawlildiadau a ganiatawyd
Ers cyflwyno ein Safonau a'n Rheoliadau newydd ym mis Tachwedd 2019, nid ydym bellach yn rhoi rhai o'r mathau o hepgoriadau a ddangosir yn y tabl isod. Y rheswm am hyn yw bod ein rheolau bellach yn fwy hyblyg ac yn llai rhagnodol, sy'n golygu nad oes angen cynnig ffordd o gwmpas hyn.
Hawlildiadau a ganiatawyd | Beth mae'n ei olygu | Nifer a ganiataw yd yn 2017/18 | Nifer a ganiata wyd yn 2018/19 | Nifer a ganiata wyd yn 2019/20 | Nifer a ganiata wyd yn 2020/21 | Nifer a ganiata wyd yn 2021/22 |
---|---|---|---|---|---|---|
Rheolau Awdurdodi | Efallai y byddwn yn hepgor rhai o'n Rheolau Awdurdodi os ydynt yn ormod o faich ar gwmni. | 19 | 28 | 76 | 6 | 0 |
Rheolau Fframwaith Ymarfer | Gallwn hepgor ein rheolau ynghylch sut a ble y gallai cyfreithwyr a phobl eraill rydyn ni'n eu rheoleiddio weithio. Rydyn ni'n caniatáu hyn os ydyn ni'n fodlon nad oes risg i'r cyhoedd wrth wneud hynny. Er enghraifft, rydyn ni wedi caniatáu i gyfreithwyr weithio mewn cwmnïau nad ydym yn eu rheoleiddio, ac nad ydynt yn cael eu rheoleiddio gan reoleiddiwr gwasanaethau cyfreithiol arall, ar yr amod nad ydynt yn delio ag arian cleientiaid. O dan y Safonau a'r Rheoliadau newydd, nid oes rhaid i gwmnïau wneud cais am yr hawlildiad penodol hwn gan fod y trefniant hwn bellach yn cael ei ganiatáu. | 41 | 35 | 2 | 0 | 0 |
Gofynion yswiriant indemniad proffesynol | Gallwn gytuno nad oes angen i gwmnïau gael y telerau a'r amodau sylfaenol ar gyfer yswiriant indemniad proffesiynol sy'n ofynnol fel arfer o dan ein rheolau. Rydyn ni wedi gwneud hyn mewn achosion lle mae gan y cwmni bolisi yswiriant amgen sydd â thelerau tebyg neu well na'n rhai ni. | 6 | 4 | 7 | 1 | 4 |
Cyflwyno adroddiadau cyfrifwr | Gallwn gytuno nad oes angen i gwmnïau anfon adroddiad blynyddol o'u cyfrifon atom os ydynt yn cau. Er enghraifft, rydyn ni'n hepgor y rheol hon os rydyn ni'n gweld bod nifer fach iawn o drafodion cleientiaid wedi cael eu trin dros gyfnod o amser. | 6 | 9 | 5 | 1 | 4 |
Ffi cronfa iawndal | Gallwn gytuno nad oes rhaid i gwmnïau gyfrannu at y gronfa iawndal. Gallwn wneud hyn os yw cwmni ond wedi dal swm bach iawn o arian cleient am gyfnod byr iawn, ac nad oes risg y bydd ei gleient yn gwneud hawliad ar y gronfa. | 2 | 3 | 2 | 2 | 1 |
Mae ychydig dros 4,000 o gyfreithwyr wrth eu gwaith ac ychydig o dan 400 o brif swyddfeydd wedi'u lleoli yng Nghymru (ffigur amcangyfrif yw hwn oherwydd gweithio trawsffiniol). Mae hyn tua 4% o holl brif swyddfeydd cwmnïau cyfreithiol. Mae tua chwarter y cwmnïau yng Nghymru a 40% o'r rhai sy'n dal tystysgrif ymarfer yng Nghymru yng Nghaerdydd.
Mae cwmnïau cyfreithiol yng Nghymru wedi parhau i ffynnu. Daeth eu trosiant i £480m yn 2021/22, £100m yn uwch o'i gymharu â chwe blynedd yn ôl.
Yn 2020 ac fel rhan o'n prif raglen TG, rydym bellach yn cyhoeddi ein holl dystysgrifau ymarfer yn Gymraeg ac yn Saesneg fel mater o drefn. Gwneir hyn er mwyn sicrhau ein bod yn trin y ddwy iaith yn gyfartal ac nad oes rhaid i gyfreithwyr ofyn am dystysgrif yn Gymraeg nac ateb cwestiwn ynghylch a ydynt yn siarad Cymraeg. Mae'r tabl isod yn dangos data hanesyddol ar gyfer 2015 i 2019.
Rheoleiddio Cymru
Deiliaid tystysgrif ymarfer yng Nghymru | Prif swyddfey dd yng Nghymru | Canran y cwmnïau cyfreithiol yng Nghymru | Deiliaid tystysgrif ymarfer sy'n nodi eu bod yn siarad Cymraeg | Tystysgrifau ymarfer a gyhoeddwyd yng Nghymru |
Trosiant |
|
---|---|---|---|---|---|---|
2015/16 | 3,700 | 450 | 4% | 1,081 | 761 | £380m |
2016/17 | 3,770 | 440 | 4% | 1,140 | 790 | £397m |
2017/18 | 3,885 | 443 | 4% | 1,172 | 793 | £410m |
2018/19 | 3,927 | 431 | 4% | 1,205 | 783 | £428m |
2019/20 | 4,003 | 420 | 4% | 1,182 | 776 | £435m |
2020/21 | 4,033 | 400 | 4% | Ddim yn cael eu casglu mwyach | Pob PC bellach yn cael ei roi yn y ddwy iaith | £442m |
2021/22 | 4,015 | 397 | 4% | Ddim yn cael eu casglu mwyach | Pob PC bellach yn cael ei roi yn y ddwy iaith | £480m |
- Strwythur busnes amgen (ABS)
- Strwythur sy'n caniatáu i bobl nad ydynt yn gyfreithwyr fod yn berchen ar gwmnïau cyfreithiol neu fuddsoddi ynddynt.
- Awdurdodi
- Pan rydyn ni'n ystyried ceisiadau gan unigolion a chwmnïau i ymuno â'r farchnad gwasanaethau cyfreithiol rheoledig.
- Cwmni corfforedig
- Busnes sydd wedi'i sefydlu gan un person neu fwy. Mae gan gwmnïau corfforedig reolau treth a llywodraethu gwahanol, sy'n gallu bod yn ddeniadol i'r perchnogion, yn dibynnu ar anghenion eu busnes. Mae atebolrwydd ariannol y perchnogion hefyd yn gyfyngedig.
- Partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (LLP)
- Strwythur busnes lle mae dau bartner neu fwy. Mae'n cyfyngu ar atebolrwydd ariannol y partneriaid.
- Ymarfer amlddisgyblaeth
- Strwythur busnes sy'n cynnig gwasanaethau cyfreithiol a gwasanaethau proffesiynol eraill i gwsmeriaid, fel cyfrifeg neu arolygu.
- Partneriaeth
- Strwythur busnes lle mae dau bartner neu fwy. Gall fod yn haws ffurfio, rheoli a rhedeg partneriaethau. Yn wahanol i gwmni corfforedig neu LLP, nid oes angen i chi ffeilio unrhyw ddogfennau gyda'r llywodraeth i wneud eich busnes yn bartneriaeth. Hefyd, nid oes angen i bartneriaethau baratoi a chyhoeddi eu cyfrifon.
- Tystysgrif ymarfer
- Dogfen rydyn ni'n ei chyhoeddi sy'n caniatáu i gyfreithwyr ymarfer y gyfraith. Rhaid i gyfreithwyr adnewyddu eu tystysgrif ymarfer bob blwyddyn.
- Cyfreithiwr Ewropeaidd Cofrestredig (REL)
- Cyfreithiwr sydd wedi cymhwyso yn yr UE ac sy'n cofrestru gyda ni i ymarfer cyfraith Cymru a Lloegr yng Nghymru a Lloegr.
- Cyfreithiwr tramor cofrestredig (RFL)
- Cyfreithiwr o'r tu allan i'r UE ac Ardal Economaidd Ewrop sy'n cofrestru gyda ni i ymarfer cyfraith Cymru a Lloegr yng Nghymru a Lloegr.
- Cofrestr cyfreithwyr
- Dyma gofnod o'r cyfreithwyr rydyn ni wedi'u hawdurdodi i ymarfer cyfraith Cymru a Lloegr. Ni fydd pob cyfreithiwr ar y gofrestr yn ymarfer y gyfraith ar y pryd.
- Ymarferydd unigol
- Cyfreithiwr sy'n rhedeg ei bractis cyfreithiol ei hun ar ei ben ei hun.